Wel, yr wyf yn ddiolchgar iddo, a bydd fy nhad yn falch o glywed am hyn. Lle mae Mr. Jarvis?"
"Y mae yn ei wely. Gwnaeth Dr. Tryfan iddo aros i mewn am ychydig ddyddiau. Dipyn o dreth ar iechyd Mr Jarvis, ac nid oedd yn y cyflwr ddylasai fod i'r fath beth mewn gwirionedd, ond mynnai—ac yr ydym wedi cael ganddo fodloni i aros yn ei wely am ychydig ddyddiau."
"Buaswn yn hoffi ei weled."
Edrychodd y Nurse ar fam Bob. Prin y tybiai yn ddoeth wedi archiad y Meddyg iddi ddweyd ei bod wedi bod yn ei olwg gyda Ann Jones, a prin hefyd y gallai wrthod Eurwen o dalu ymweliad a'r ystafell, a meddyliodd ei fod yn cysgu.
"Os caf ond ei weled Nurse, ei nerves mae'n debig?"
"Ie, y mae ei nerves yn ddrwg. Yr oedd y braw a gafodd yn un peth, a diameu ei bryder ac yn ddyn mor llafurus."
Cafodd mam Bob funud gyda Bob cyn ymadael, ac addewid gan y ddwy ferch dyner na fyddai dim yn cael ei esgeuluso i brysuro'r bachgen yn ol i'w gartref, ac aeth ymaith yn lled siriol gan adael y ddwy ferch yn ymgomio gyda'i gilydd wrth y drws.
Gwyddoch y ffordd Ann Jones, ond dacw Rolant. Cymerwch Ann Jones i'r drws Rolant."
"Di o ddim wedi gwneud dim allan o'i le?" gofynnai Eurwen.
"Pwy?" gofynnai y Nurse.
"Mr. Jarvis."
"Wel yr oedd y Doctor ar y dechreu yn ofni, ond mae mor anodd, ac ni allai feddwl ar y pryd am neb un y gallai feddwl am dano i gael—ac mae bechgyn y pwll fel rheol o dan y safon; ond ni fynnai Mr. Jarvis iddo feddwl am neb. Mynnai osod ei hun, y mae yn ddyn ieuanc gwrol