Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond methu eto, a felly bum i yn dringo ar ol 'i lais o Nel. Ma' hi yn fwy ofnadwy na breuddwyd tada am dana fo."

Yna torrodd y fam i wylo.

"Ie, criwch am spelen mam, mi neiff y'ch 'sgafnu chi.—.

"Ie, dringo, dringo,—"

Dyma Gwen yn ei hol. Daeth Gwen rhag ei blaen i'r aelwyd.

"Buoch yn fuan Gwen."

"Nid oedd mam yn tŷ Neli. Mi redaf yno heno. Mr. Ellis yn gofyn am dano chi. 'Roedd o yn mynd i'r Hospital rwan i edrych am Bob."

Edrychodd Gwen ar ei meistres, ond ni ddywedai air.

"The blessed dreams Mam 'di breuddwydio. Gwen bach. Geiff Gwen 'i chlywed hi eto. Mi ddaru mi 'i weld o Mami, a 'roedd Gwen efo fi."

"Y fi," ebai Gwen.

"Mynd i ddweyd fy mreuddwyd ydw i Gwen. 'Roedde ni'n dwy ar yr aelwyd 'ma yn gneud rywbeth, a dene i wyneb glân o ar y ffenest. Mi floeddies mam, a dene ni allan ein dwy drwy'r drws 'ma, a disgwyl i gofleidio fo, ond erbyn i ni fynd allan 'roedd o 'di mynd —dim golwg arno fo a dene ni i'r tŷ yn ol ac i'r aelwyd, ac yn y man dene 'i wyneb o wedyn ar y ffenest. Y tro yma yn chwerthin arna ni. Allan a ni wedyn—huntio pob twll a chornel am dano fo—yr ardd a phob man—methu a'i gael o yn unman. I'r tŷ a ni wedyn, a dene 'i wyneb o drachefn ar y ffenest —ac ar hyn, dene fi yn deffro."

Wedi sychu y dagrau a chael y goreu ar effaith y breuddwydion, ebai y fam—" Rhaid i ti fynd a hanner dwsin o wyau a phwys o fenyn iddi Nel. Wrach ma'