Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XXIII.

Yr oedd i Jarvis ewythr yn y fan a'r fan. Modryb yn y fan arall a nifer o gefnderod yma a thraw, ac yn ystod y ddeuddydd cyntaf o arosiad Jarvis yn yr Ysbytty, a chyda hynny ryw ysgwyd pen gan y Meddyg o barthed i iechyd Jarvis, teimlai mam Bob y carai yn fawr ddanfon at rai o honynt, a diameu y buasai wedi gwneud hynny pe buasai cyfeiriad priodol rhai o honynt yn ei meddiant. Beth bynnag, prin y bu cymaint pryder yn Llifon o barthed i iechyd unrhyw un ac ydoedd i Mr. Jarvis, a phan welodd Tryfan ef y trydydd dydd, prin y gallai faddeu iddo ei hun am yr hyn ganiateid iddo ynglyn a Bob; ond ni ellid wrtho, ac nid oedd dim ond gwasgu arno gymeryd y cwrs trwyadl yn ol barn Tryfan, sef ysbaid o orffwys llwyr.

"Ryw ychydig ddiwrnodau eto Mr. Jarvis," ebai y Meddyg," ag y mae Mr. Stork yn falch eich bod yn aros."

"Y gwaith a'r bechgyn," ebai yntau. Yr oedd colli un dydd oddi wrth fechgyn y pwll yn rhywbeth na allai ei lawn bwyso.

Yr oedd blodau o ardd y Plas yn cael eu danfon gan Eurwen i'r ddau, a phan ddelai 'i blodau i ystafell Jarvis, syllai yn hir arnynt —Eurwen—" a dyna nodyn bach ganddi i chwi Mr. Jarvis," ebai y Nurse. "Cefais innau un, daw yma rywbryd yn y prynhawn." Ond, ni roddai Jarvis unrhyw atebiad, a synnai y Nurse at ei oerfelgarwch, ac yn fwy felly pan welodd hi ef yn taro y llythyr ar y bwrdd heb gymaint a'i agor. Mor wahanol i'r cleifion eraill yd-