PENNOD XXIV.
REDODD Gwen i'r tŷ o'r ardd. Yr oedd gardd
Bryn cymaint uwch na ffordd y Llan, a gellid
gweled o'r ardd hyd at dro y ffordd sydd wrth y fynwent.
"O meistres, meistres. Dowch, dowch," gwaeddai. "Be sydd Gwen?" gofynnai ei meistres; ond ni chymerai Gwen i'w hateb, ond rhoddodd floedd hefyd ar Nel.
"Be sydd Mam?" ebai honno drachefn. "Be sydd Gwen?" ebai wedyn.
Yr oedd Gwen wedi rhedeg i waelod yr ardd a dawnsiai gan orfoledd, "Derwyn meistres, Derwyn."
"Be?" ebai'r fam.
"Dowch."
Ie, Mam." Yr oedd Nel yno ar darawiad. "Ie mam." Peidiwch a nhwyllo i 'nethod, "ebai 'i fam. "Derwyn mam," ebai Nel gyda'r fath bwyslais, a rhedodd heibio'i mam i'r tŷ, a'r fam erbyn hyn wedi estyn at y gwrych i'w weled. Yr oedd yn cerdded yn lled gyflym gyda'i dad.
"O'r 'Merica heb i ni wybod. O! mhlentyn i. Ie, fo ydi o Nel bach."
Dilynodd y fam Nel, ond arhosodd Gwen ychydig yn hwy wrth y gwrych. Gwen oedd yr olaf—dim petrusder gan y fam a Nel.
Cododd Derwyn ei law ar Gwen, wedi iddo ddod ychydig yn nes.
"Ie, ie, y fo ydi o," ebai Gwen, a rhedodd hithau i'r tŷ.