"Dwi ddim ond yn jokio efo ti Derwyn bach, ac yn rhy falch fod y druanes wedi ca'l dipyn o help."
"Na, 'de chi ddim felly, mi fentra Ann Jones. Tyrd Bob, os wyt ti am ddwad?"
"I le?" gofynnai ei fam.
"Am dro, Ann Jones, geiff o ddwad?"
"Ceiff os peidith o a aros yn hir i ga'l anwyd. 'Roedd o i yn pesychu yn y fan 'ma neithiwr yn dost, a phrin ges gau fy llygad fel y pesychai drwy'r nos, ond brysia Bob, a cewch ddwad i'r tŷ am sgwrs, os nad yw Derwyn 'isio mynd adref."
"Adre wir," ebai Derwyn.
"Ia, cartre—a chartre o'r fath ore 'sgen ti, Derwyn, a biti na fase pob cartre fel yr eiddo ti, fase llawer llai o ofid yn yr hen fyd 'ma. Tad o'r fath ore i ofalu am dana ti, —a mam—"
"Ddim gwell mam na chi mi fetiaf; ond ma' hi yn eistedd ar y sedd uwchaf sydd yn fy nghalon i—er—"
Daeth ryw gwmwl tros wedd Derwyn y pryd hyn. Yr oedd yr ataliad yna yn ei sgwrs wedi'r fath deyrnged i'w fam, wedi dwyn ryw fath o syndod i wynebpryd Ann Jones, ac edrychodd arno am ennyd fel pe yn petruso pa un ai aros iddo ef ymhelaethu ynte iddi ei ragflaenu gyda ryw fath o gerydd ysgafn, canys gwelai fod ryw afonyddwch ar ei feddwl ar unwaith.
"Rwyt ti wedi ca'l ysgol dda Derwyn, ac mi fyddi ryw ddydd yn plethu torch o anrhydedd ar ben y fam a'th fagodd ac yn peri i'th dad lawenydd yn ei hen ddyddiau, neu o leiaf, dyna ddylai cwrs pob plentyn sy' wedi ca'l y fath ofal a ti, er gwn fod eithriadau brwnt i'r rheol yna,