Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/186

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A dacw dai'r Wal?" ebai Eurwen. fedd," ebai drachefn. "Y fath le rhyfedd

"Rhyfedd ac ofnadwy," ebai Derwyn a chusanodd hi eto.

"O dyna, ac yr ydych wedi addo tipyn mwy o hanes y lle rhyfedd ofnadwy i mi—a byddai yn drosedd difa y fath le Derwyn."

"Byddai ar lawer ystyr," ebai yntau. "Welwch chi'r tŷ bach pellaf yn yr ail res?"

Gwelaf," ebai hithau.

Deugain mlynedd yn ol, yr oedd yn byw yn y tŷ yna fam i dyaid o blant, a dyma i chwi hanesyn bach pert glywais am dani. Bu y fam yna am ysbaid o amser yn cario dau blentyn wedi eu rhwymo ar ei chefn i wasanaeth crefyddol ddwy waith bob Saboth, a'r tad yn cario plentyn chwe blwydd oed, anafus. Yr hen Gruffydd Huws sy'n gyfrifol am yr hanes yna Eurwen, ond wrth gwrs, ni fyddis wrth ddifa y tŷ yn difa yr hanes. Yn hytrach, byddai yn ryw fath o deyrnged i'r hanes.

"Mam yn cario dau blentyn!"

"Mam yn cario dau blentyn, ddwywaith bob Saboth, am ddwy filltir o ffordd, yn gwneud i fyny wyth milltir o daith, a'r tad yn cario hogyn anafus. Dyna un o'r ychydig bethau ag mae'r Wal yn meddu hawl arno, a phrin y gellir ei guro. Yna, welwch chi'r tŷ canol o'r tri tŷ bach sydd ar y ffor' ganol?"

"Gwelaf," ebai Eurwen.

Bu brwydr galed ym muarth y tŷ yna, pryd y cafodd dyn ei ladd, ac yn y tŷ yna y cynhaliwyd yr achos crefyddol cyntaf yn Llifon, a chymaint yr erlid hyd nes lladdwyd