Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achos dyna Alun, bachgen Elin fy chwaer, fe wariodd tad a mam hwnnw rai cannoedd o bunnau ar 'i addysg o, a dene fo heddyw yn warth i gymdeithas, a'i fam yn y bedd a'i dad yn hanner dori ei galon. Madde i mi am gyfeirio ato, Derwyn; ond mae yn werth hefyd dwyn i sylw bachgen fel ti, y peryglon o amhrisio yr hyn ma' dy rieni wedi ei gyflwyno ar dy ran, ac wedi aberthu er dy fwyn."

"Dim aberth wedi bod yn tŷ ni, Ann Jones."

"Wel, wrach na fu'r aberth fel llawer tŷ, wrth gwrs, dwi ddim yn awgrymu dim o'r fath; ond gwn i fy chwaer a Tomos i gŵr, berthu nid yn unig ffrwyth eu cynildeb, ond hefyd orfod pryderu llawer, a diameu fod yna gryn bryder wedi bod yn ych tŷ chi Derwyn.

"Dim pryder chwaith Ann Jones, dim munud o bryder efo'n addysg i, ar dop y class bob tro Ann Jones, a bwnsien o honours i ganlyn o—ond—"

"Ond be, Derwyn bach—er i ti fod yn llwyddiannus fel y gwyddom oll dy fod wedi bod, eto, mae pryder wastad yn rhwym o ddilyn cwrs pob plentyn i'r tad a'r fam sydd yn edrych yn mlaen, a 'rwy'n sicr nag ydi dy dad a'th fam dithe ddim yn eithriad i ryw dad a mam arall."

"Ia—ond fe ddylai pob plentyn ga'l dewis i gwrs yn y byd 'ma, Ann Jones, a dyna'r drwg yn tŷ ni"

"Drwg—ond ma' ne rwun wrth y drws."

"Peidiwch a gadel iddi ddwad i mewn, nes eiff Bob a fine allan," ebai Derwyn.

Aeth mam Bob i'r drws, a chymerodd fwcedaid o lô yn ol. Glo oedd un o'r cymdogesau wedi ei fenthyca oddi arni —a chauodd y drws drachefn.

"Bloeddiwch ar Bob, Ann Jones—bloeddiwch arno."