Prawfddarllenwyd y dudalen hon
y ca'i gweld hi ryw ddydd wedi'i thynnu, achos dwi'n credu y daw'r dydd pan y bydd yr hen adnod annwyl yn cael i lle. Pob pant—ac yn eu plith Pant yr Afon, a gyfodir, a phob mynydd a bryn a ostyngir—Nos dawch Ann Jones."
Ysgydwodd Derwyn law ag Ann Jones fel ei arfer ond ychydig dybiodd y fam gynnes ei bod yn gafaelyd yn ei law i flarwelio ag ef, ac na chai gyfle mwyach i roddi help i Derwyn ieuanc wyllt i gadw cwch ei fywyd o afael y creigiau, yn ol ei hofn naturiol hi am dano.