PENNOD II.
DAETH Bob yn ol y noson hon yr aeth allan gyda Derwyn yn gynt nag a ddisgwyliasai ei fam ef, a phesychai, pesychai hyd nes yr aethai i'w wely. Rywfodd ni soniodd ei fam air am Derwyn, yr oedd pesychu dibaid Bob yn ei blino gymaint, fel yr anghofiai bopeth o'r tu allan i'w chylch bach teuluaidd.
Aeth Bob yn lled gynnar i'w wely ac wedi ryw huno cysgu, o leiaf, yr oedd y ffisig peswch a roisai ei fam iddo, wedi rhoddi hamdden fach iddo oddiwrth y peswch, tra hithau ei fam yn prysur drefnu y bwrdd erbyn y bore, ac at hynny lanw ei lestr gwaith a'i ddodi ar y pen pellaf i'r bwrdd gyda'i botel, a thra yn taflu ei golwg i gyfeiriad y tân—yr hwn oedd yn brysur farw losgi allan,—dyna gnoc sydyn ar y drws.
"Y tad mawr," ebai gan syllu tua'r drws. Dyna gnoc dieithr," meddyliai, ac aeth gyda ryw led ofn i'w agor.
"Y fi sy' 'ma Ann Jones, mam Derwyn. Y mae Derwyn heb ddod gartref, ac mae ei dad a minnau yn anesmwyth am dano, ac yn meddwl y galle fo fod yma efo Bob. Lle ma' Bob?" gofynnai gan daflu ei golwg yn gyflym heibio Ann Jones.
"Ma' fo yn i wely, Mrs. Humphreys, a pheswch mawr arno. Mynd i huddo'r tân 'roeddwn i rwan. Derwyn heb ddod adre," ebai, ac oslef frawychus yn ei llais.
"Ia, Derwyn heb ddod gartref, a dwn i ddim lle i fynd i edrych am dano."
"Roedd o yma tua pump o'r gloch efo Bob, ac fe aeth y ddau allan, a fu Bob ddim yn hir, ma' geno fo rw beswch ofnadwy Mrs. Humphreys, a mi siarses o beidio aros allan yn