Aeth i dop y grisiau a gwaeddodd. "Mi ddaw i lawr yrwan Mrs. Humphreys."
"O biti," ebai hithau, gan roddi ochenaid a thaflu ei golwg tros gegin fach lom Ann Jones, ond er llymed a bychaned y tŷ, daeth i'w meddwl fod mwy o ddedwyddwch ynddo, filwaith nag yn nhŷ mawr y Bryn, cartref Derwyn, Derwyn ei hoff fachgen.
Daeth wyneb llwyd—las Bob i'r golwg, a syllodd mam Derwyn arno am ennyd.
"Biti i mi'ch codi chi machgen i," cans gwelai ar ei wedd, fel y dywedai ei fam am dano.
"Derwyn sy' heb ddod adref, a mi fydde yn sôn beunydd am Bob, Ann Jones, a ma' tada wedi gwneud i mi ddwad yma Bob, yn lle gadawsoch chi o?"
"Wrth Siop Prys Huws, Siop Goch." ebai Bob.
"Aru o ddeud rwbeth wrtha chi?"
"Yr un gair Mrs. Humphryes, ond—"
"Ia, roeddwn i yn meddwl deud hynny wrtho chi, Mrs.. Humphreys, weles i mono fo 'run fath a heno," ebai Ann Jones.
"Be, rwbeth yn wrong?"
Na, na, dim byd yn wrong ond bod ni wedi digwydd—sut y bu i ni siarad Bob? Ella i ddim cofio ar y funud. Sut Bob? Ond beth bynnag oedd o yn deud y base fo yn caru ca'l ffor'i hun i ddewis; ond bod i dad wedi'i orfodi o fynd i'r dre at Rasp y twrne, a mi rois ine dipyn bach o gerydd iddo fo, achos plant ydi plant Mrs. Humphreys,. ond dim byd i'w ddigio na'i ddigaloni; ond dangos iddo gore gallwn i y fath dad a mam sy' ganddo, oedd o wedi deud rwbeth wrtho chi Mrs. Humphreys?"