Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyd hi i mewn ar ei hunion gan Gwen y forwyn. Gwelodd Ann Jones y fath alanas oedd ar eu meddyliau.

"O! peidiwch a chrio Mrs. Humphreys bach, a chithe Nel. 'Does dim o'i le ar Derwyn, rw stranc ffol ydi o yn siwr."

Aeth rhai munudau heibio cyn y gallai Nel na'i mama ddweyd gair, a safai Gwen yn ddwys-rudd yn ei hymyl yn ei gwylio.

"Y bachgen na chawsom ni ddim allan o le ynddo. Dim, ai do Nel?"

"Naddo mam," ebai Nel, a chri yn ei llais.

"Lle mae'ch tad?" gofynnai Ann Jones. Q Rwy'n ei ddisgwyl bob munud.

Mae o wedi mynd i'r Stesion. Eisteddwch Ann Jones. Geiff Gwen a Nel ddwad i'ch hebrwng chi' adre."

"Ma' hi yn ole braf. 'Does dim ofn arnaf, a d'allwn i ddim meddwl mynd i'r gwely, a 'roedd Bob 'isio dwad, ond mi ges ganddo fynd i'w wely. Ma' fo'n gweithio mewn lle gwlyb a ma'r hen Sais newydd sy' wedi dwad yn gaffer i'r Pwll 'ne yn fwy tebyg i ddyn anwar na dim arall. Rhegi, y bechgyn mae o drwy gydol y dydd. Wn i ddim sut na fase gyna fo ofn; ond rhaid dioddef. Dyma Mr. Humphreys druan yn dwad."

Heb Derwyn—heb Derwyn—wel,"

Yr oedd llygaid y merched ar y drws, a dyna'r tad siomedig i mewn ac heb allu dweyd gair, torodd i wylo fel plentyn. "Welsoch chi' Mr. Parri?" gofynnai Nel, a'i gruddiau yn llaith gan ddagrau.

"Do Nel," ebai gyda llais toredig. "Do," ebai wedyn, "a ma' fo wedi mynd efo'r train."