"Be?" ebe'r fam.
"Efo'r train, Mary."
"I le?"
"I Lerpwl."
"Lerpwl?"
"Ia, Lerpwl, mi fydde ono cyn wyth o'r gloch, medde Mr. Parri."
"Fu Mr. Parri yn siarad efo fo?"
"Do, cafodd sgwrs bach efo fo, a Derwyn yn chwerthin yn galonnog, medde fo. 'Roedd o yn mynd ar neges i dŷ 'i Fodryb Selina, medde fo wrth Parri, ac yr ydw i am fynd yno yn beth cynta' yn y bore Mary"—Yna rhoddodd ochenaid ddofn. Y fath ochenaid ag sydd weithiau yn ysgafnhau y fynwes ofidus.
"Ryw ddireidi diniwed, Mr. Humphreys," ebai Ann Jones.
"Gobeithio Ann Jones—gobeithio," ebai drachefn. "Gwna 'paned o de i Ann Jones, Gwen."
"Dim, dim, dim, Mr. Humphreys. Rhaid i mi fynd."
"Munud fydd Nel a Gwen yn 'i neud o Ann Jones," ebai mam Derwyn.
Cerddodd Ann Jones at y drws, gan wrthod yn bendant. "Meddyliwch y gore ac ewch i gysgu," ebai.
Derwyn yn fachgen rhy bur i fod dim allan o'i le ynddo."
Cyfarchodd Ann Jones hwy, ac aeth ymaith gyda Nel a Gwen i'w hebrwng i'r ffordd, ar archiad tad Derwyn.