Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yn foreu trwm, niwlog, a chymaint trwch y nifwl fel prin y gellid gweled ond ychydig yn mlaen, a phan darawai yr hen awrlais yr awr yng nghloch-dŷ y llan, yr hwn oedd wedi ei lwyr guddio gan y llwyd-darth oer, a sŵn y clychau fel pe buasent yn dod o gryn bellter, a'r un modd gyda sŵn peiriannau mawr y lofa gyda'r gwahaniaeth hynny eu bod hwy yn parhau i ddadwrdd fel pe buasent mewn brwydr farwol a'r darth-len oer a orchuddiai y pentref, a sibrydent y mynnent hwy gorddi ymaith y nifwl yn y man.

Ni raid dweyd nad oedd Pwll mawr Llifon yn brif gynnyrch bywyd y pentref. Yn wir, ymddibynnai bron yn gyfangwbl arno, ac fel rheol byddai y pentref yn lled dawel a di—gyffro pan fyddai ei olwynion mawr yn ymdroelli ol a blaen, gan ddwyn i'r lan gynnwys llafur ei feibion glew, ac o'r ochr arall, pan safai y rhai hyn buan iawn y brithid heolydd y pentref a phresenoldeb ei phlant.

"Ma' Llifon yn chware heddyw,"—dyna'r ymadrodd a ddefnyddid yn gyffredin pan fyddai'r pwll yn sefyll.

Araf ymgiliai'r tarth ymaith, a phan darawai yr awrlais un-ar-ddeg, y ddifyr ddinas fach' fel y'i gelwid gan rai oedd o dan baladr berlau yr haul, a'i heolydd mor fywiog a phe yn nos Sadwrn tâl yn mhwll Llifon.

"Be mater heddyw, Siarlat?" gofynnai yr hen Isaac y siop.

"Glywsoch chi ddim?" ebai Siarlat Huws, oedd yn byw yn ymyl y gwaith, ac wedi dod ar ei hynt foreol i siop fawr fwyd Isaac Jones.

"Ma'r bechgyn acw adre er's y bore—strike"—ebe Siarlet Huws.