Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Be?"—taflodd yr hen Isaac ei gyllell ar y cownter, ac edrychai fel pe wedi ei daro a'r gwahanglwyf.

"Ydi, ma' hi yn strike yn Llifon i chi Isaac Jones, ond 'does ddim 'isio i chi' fynd ar strike. Cydiwch yn y gyllell ne a torwch bwys o'r ham ne."

Daeth un ac arall i fewn o ferched y llan, i'r siop, chawsant chwardd am ben archiad pybyr Siarlat Huws i'r hen siopwr.

"Ydi, ma' hi yn strike Isaac Jones," ebe un o honynt, i gadarnhau Siarlat Huws," a dim heb i hangen hi chwaith, 'rhen luman gyn Stamper ne efo'r bechgyn."

"Ryw fath o brotestio ydi hi ddyliwn," ebe'r hen Isaac. tra llithrai ei gyllell drwy yr ham. "Faint aru chi ddeud oedde chi 'isio Siarlat Huws?"

Pwys, a fydd o ddim gormod pan ma'r lot accw efo'i gilydd; gas gyna'i i gweld nhw'n chware, gymra fy llw fod nhw yn byta gimin ddwywaith pan fydda nhw adre ddim yn gweithio; ond ma' 'isio rhedeg y dyn ene o'r fan 'ma, 'roedd 'slyse Sam bach acw yn gwaedu y diwrnod o'r blaen o'i achos o. Un brwnt di—deimlad ydi o, ac am regi—ma' hi yn arswydus bod yn 'i ymyl o, medde'r plant acw. Ma' ne gyfarfod ar y bone am dri heddyw pnawn, a ma'r bechgyn yn tyngu nad a nhw ddim at 'i gwaith tra fydd o ene."

Nid dyma y waith gyntaf i Lan a phentref Llifon gael ei ddal gan anffawd o'r natur yma. Yn wir, byddai yn ryfeddod iddo weithio am chwe' mis heb ddim i'w atal, a chan mwyaf o honynt yn cael ei achosi o herwydd swyddogaeth anheilwng, anghyfaddas yn ol tyb dynion mwyaf eu pwyll yn y gwaith.

"Byth e's pan ma' rhen Stork ne yma 'does dim heddwch, a ryfeddwn i ddim," ebe'r hen Siarlat, wrth iddi adael y siop