Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"na'i ddiwedd o fydd ca'l i redeg 'run fath a gafodd yr hen Shot e's talwm.

"Rhaid i pawb ga'l i le, Siarlet Huws. Giaffer ydi giaffer, a ma' Price acw yn'i frolio fo."

"Dwi'n deud dim am Stork 'i hun, ond rw garpie sy' o dana fo, er mi ddyle fo edrych ffasiwn ddynion ma' fo'n dwad i osod wrth ben y'n plant ni. Ma' nhw'n deud ma' o achos hwn y collodd Elis Parri' i fywyd, gneud iddo fo weithio mewn lle na 'lase fo ddim, a Elis druan mor ddiniwed o. Ma' hi yn gwilydd i'r Sqwiar y fo bia'r pwll, a mi ddyle—"

"Ma' ne deputation yn mynd ata fo'r bore 'ma i chi," ebe dynes ifanc, oedd yn sefyll ac yn brysur roddi ei nwyddau yn y fasged, oddiar gownter y siop.

"Tase ne deputation o hono chi ferched yn mynd at fo, mi fase yn tycio lawer iawn gwell ddalia i," ebe'r hen siopwr.