PENNOD IV.
UN o'r pethau mwyaf yn meddwl pobl Pentref a Llan Llifon oedd y Plas Mawr, yr oedd iddo hanes rhamantus o'r gorffennol, ac fel y safai yn cael ei anwesu a'i ddarn guddio a choedwig fawr. Taflai argraff fel byddai i'r dyfodol fod yr un mor rymus iddo yn ei awdurdod a'i swyn ar feddyliau y bobl, ac mewn llawer modd yr oedd i'r Plas a'i berchenog gryn afael a hawl arnynt, can's hynodid Syr Alwyn â chryn duedd at bob agwedd Gymreig ar fywyd y trigolion, a dyna'r rheswm ond odid ar ba un y mynnai rhai o ddynion blaenllaw y Pwll fynd a'r mater hwn rhag ei flaen ato ef ei hun, er ni byddai ac ni cheisiai byth ymyrryd ag unrhyw achos afreolus a ddigwyddai yn y pwll, er iddo gymeryd y diddordeb mwyaf gyda rhai pethau oedd wedi eu sefydlu ynglyn a'r lofa. Yr Ysbyty, er enghraifft, byddai ef neu Eurwen, ei ferch, a'r llaw flaenaf ynglŷn â phopeth a berthynai i'r Ysbyty, er mai y glowyr ei hunain, oedd yn gyfrifol am bwys mwyaf ariannol yr Ysbyty. Ond ynglŷn â swyddogaeth y lofa, ni byddai ef yn ymyrryd dim, daliai na ddylai ef ynglŷn â materion cyffredin y lofa gael dim i wneud a hwy, a lled debig na wyddai ef ond ychydig am y driniaeth anhydrin a gawsai y glowyr, a'u plant, trwy offerynoliaeth swyddogaeth estronol.
Fodd bynnag, mynnai Lias Parri, yr hen Garno, John Parri a William Elis fyned rhag eu blaen gyda mater y bechgyn at Syr Alwyn ei hunan i'r Plas, can's dalient mai ei fater ef a dweyd y lleiaf oedd gofalu am swyddogaeth deg a chyfaddas, a chafwyd pleidlais ynghwr y pentref, yn eu