hannog i fyned ar ran y gwaith gyda'r mater, a dod a'r genadwri yn ôl erbyn cyfarfod y prynhawn.
Aethant i fyny y drive fawr goediog, ac ar eu hunion at y drws mawr, a digwyddai fod ar y pryd, Eurwen brydferth, unig ferch a phlentyn Syr Alwyn, yn eistedd yn y ffenestr fawr yn eu gwylio hwy yn dodi fyny at y drws, ac aeth ato i'w agor.
"Bore da Miss," ebai Elis.
"Bore da Mr. Elis, Beth sy'n bod?" ebai hithau, yr oedd yn gyfarwydd iawn â Elis trwy y mynych gyfarfyddiadau a gawsai ag ef ynglŷn â symudiad yr Ysbyty.
"Eich tad yr ydym yn geisio weled," ebai Elis.
"Af i'w nol," ebai ac ymaith a hi, wedi gwahodd y pedwar i mewn a'u cyfeirio i eistedd i swyddfa Syr Alwyn, ac ar ddyfodiad Syr Alwyn atynt, rhoddodd y cyfarchiad cynnes arferol yna, trodd at Elis.
"Wel Elis, be' sy'n blino y bobol?"
"Wel Syr Alwyn," ebai yntau, yr ydym wedi dod yma ein pedwar ar ran y gwaith."
"Be sy' o'i le ar y gwaith?"
"Y mae y gwaith yn burion, Syr Alwyn; ond fod y modd yr ymddygir at ein plant yn peri cryn boen a phryder i ni, ac yr ydym wedi methu cael y bechgyn i weithio heddyw o herwydd y driniaeth anheilwng y maent yn ei dderbyn gan rai o'r is-swyddogion, a chan na wel Mr. Stork yn werth rhoddi sylw i'r achos, yr ydym wedi penderfynu dod ag ef ato chwi eich hun—Syr Alwyn."
"Y mae Mr. Stork yn un o'r swyddogion goreu a gefais erioed, os nad y goreu," ebai Syr Alwyn.
"Nid ydym chwaith yn cyhuddo Mr. Stork," ebai Elis;