"ond yn unig ei fod yn goddef swyddogion anheilwng o dan ei ofal."
Edrychai y ddeuddyn i lygaid ei gilydd, a gwelai Elis ryw wg yn ymgronni o dan aeliau y Marchog, a chanfyddai hefyd ei fod yn araf wasgu ei wefl gan fel yr ymboenai ei fynwes o dan y cyhuddiad a ddygai y dynion gerbron, a lled feddyliodd Elis ei fod wedi agor yn rhwydd y ffordd i galon deg Syr Alwyn i ymyrryd ar eu rhan.
"Ac mae plant Pentre Llifon wedi stopio'r Pwll Mawr," ebai y Marchog, â llais ar unwaith yn acenu digter. "Y Pwll ag mae y llong fwyaf sydd ar yr Atlantic yn dibynnu arno am ei glo. Y Pwll ag y mae gwaith mawr Mr. Spleen lle ma dur gore y Man-o-Wars yn ca'l i ffwrneisio, un o'r gweithiau hynny lle gorwedd pwys a thynged yr ymherodraeth fawr Brydeinig, ac y mae olwynion y lle pwysig yna wedi ca'l i stopio gan rw gêr o blant Elis?" ebai, a duwch yn ei wyneb yn taflu y fath fraw i wyneb y tri dyn a safai'n gwrando nes yr oeddynt yn gwelwi gan ei ofn.
Ond, safai Elis o'i flaen yn ddigryn. Dyn bach, o osodiad cadarn ydoedd William Elis wedi cael cryn brofiad ar bwyllgorau ynglŷn a helyntion y gwaith, ac yn cael edrych arno fel dyn di-ildio i drafod pynciau dyrys ac erbyn hyn yr oedd llygad Syr Alwyn yn gyfangwbl ar Elis, canys gwelai fod y tri arall wedi eu gwneud yn ddi-rym, can belled ag y gallai farnu wrth yr olwg syrthiedig oedd ar eu hwynebau.
"Wyt ti yn deall be ydw i yn drivio ata fo Elis yn 'dwyt ti?" ebai'r Marchog, heb dynnu ei olwg oddiarno.
"Nid fod Pwll mawr Llifon mewn bodolaeth, ond fod ein plant ni i fod yno yn gweithio, dyna sydd yn ei wneud yn bwysig onide, Syr Alwyn?" ebai Elis.