"Dyna sydd yn bwysig," ebai y Marchog, yn ol fel saeth. "Fod olwynion pwll mawr Llifon yn dal i droi ac na ddylai neb eu hatal."
"Mae pob un o honom yn unfarn ar y mater yna, Syr Alwyn," ebai Elis, a trodd ei olwg at ei gyd-gynrychiolaeth —"na ddylai dim afresymol gael caniatad i atal pethau mor bwysig ag olwynion mawr Pwll Llifon."
"Tase chwithe fel pobol Llifon yn gweled ac yn teimlo y pwysigrwydd yna, yr un mor gywir ac yr ydych yn medru ei ddatgan, buasai dim sefyll arnynt, a be mae hogie o blant yn gwybod nac yn hidio. Ma' Stork, ydw i yn deud eto, yn un o'r dynion gore a fedra i ga'l —dim achos i geryddu Stork—rhoswch am funud—"
Aeth ymaith, galwodd ar Eurwen ato, a daeth Eurwen i'w gyfarfod, cyn iddo fyned ryw led llath oddi wrth ddrws yr ystafell lle yr eisteddai y dynion.
Eisteddodd Elis i lawr. Cododd ei law ar y dynion rhag iddynt aflonyddu fel y gallai glywed yr ymddiddan wrth y drws, ond nid angen hynny, yr oeddynt oll yr un mor awyddus i wrando.
Yr oedd Eurwen Llifon, unig blentyn Syr Alwyn yn neilltuol o gymeradwy gan y pentrefwyr. Bu ei mam farw pan nad oedd ond dwy flwydd oed, a mawr oedd gofal ei thad am dani, ac er nad oedd eto ond prin ddeunaw oed, byddai ei thad yn wastad yn ei galw pan fyddai ganddo ryw achos neilltuol dan ei sylw, a chan mor brydferth ydoedd hi, nes swyno yr holl wlad, a swyn prydferthwch ei chymeriad os yn bosibl yn fwy na hynny. Chwareuai'r delyn yng nghyngherddau'r Pentref, a hyfrydwch y trigolion oedd ei phresenoldeb yn eu gwyliau Eisteddfodol; hefyd yr oedd yn un