o'r boneddigesau ieuanc hynny roddai y lle blaenaf yn ei siarad i iaith y wlad, a hoff bleser ei bywyd fyddai gwrando ar Alawon Cymru, a dywedid y byddai yn gwneud cais arbennig ar bob canwr neilltuol ddeuai i'r Llan, i ganu "Bwthyn bach melyn fy Nhad." Yn ddiau, yr oedd bythynod bach Cymru yn agos at galon Eurwen, a phrin y buasai yn goddef i ddim—hyd y gallai hi—wneud y bythynod a garai mor fawr yn annedwydd.
"Nhad," ebai, a gwrandawai Elis yn astud. "Be sy' ar y dynion eisiau?"
"Cer a galw ar Stork ar y teliffon," ebai ei thad. Aeth Eurwen yn ol archiad ei thad a daeth Syr Alwyn yn ol i'r ystafell at y dynion.
"Mi fynnaf wybod gan Stork be ydi'r achos o hyn," ebai, ac yna mi wrandawaf arnoch. Gymerwch chwi rywbeth i yfed neu i fwyta?"
"Diolch i chwi am eich caredigrwydd," ebai Elis. Aeth Syr Alwyn yn ol a dyna Eurwen i'w gyfarfod.
"Y mae Stork yna nhad."
"Galw am win i'r dynion, a thamaid i mi gael siarad â Stork."
Aeth Eurwen i erchi y morwynion ddod a lluniaeth, a gwisgai wynebpryd y dynion ryw wên ysgafn pan ddaeth Eurwen yn ol atynt i'r ystafell.
"Bydd croeso fel hyn," ebai Elis, a choeg yn ei lygad; "yn ein temtio i ddod yma eto yn fuan, Miss Eurwen."
"Wel, gobeithio y bydd popeth yn gydnaws a'r ychydig groeso yr ydych yn ei gael. Mae fy nhad wedi galw ar Stork. A wyddai Stork eich bod yn dod yma?" gofynnai.
"Wyr o ddim am ein neges ni yma, Miss," ebai Elis.