Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Bydd hyn yn eich erbyn ganddo Elis—yn siwr, biti," ebai Eurwen.

Ar hyn, dyma un o forwynion y Castell i fewn gyda gwin a theisennau.

"Gwin y Plas ydi hwn Elis, gwin o ffrwythau coed yr ardd, ac y mae yn ddiniwed. Yfwch o hono. Byddwch gymaint a hynny barotach i'r frwydr. Y mae fy nhad yn eithaf digllawn fod y gwaith yn sefyll, ond peidiwch a'i ofni. Y mae y gair yn waeth na'r weithred ganddo yn wastad. Maddeuwch i mi am ei amddiffyn."

"Fuasai William Elis a'i gwmni ddim yma, Miss Eurwen, onibae fod y datganiad yna yn sail i'n ffydd ni wrth ddod, yn siwr i chwi, Miss Eurwen."

"Eich iechyd yfwn."

"Diolch," ebai hithau, a nwyf siriol ei llygaid yn dawnsio ar rudd can brydferthed ac yr edrychasai dyn arno erioed. Yna, aeth allan gan eu gadael i fwyta.

**** "Stork."

"Ia."

"Y mae yma ddirprwyaeth o'r gwaith, a wyddoch chi rywbeth yn ei gylch?"

"Dim—dim—"

"Beth?"

"Dim "—ebai y llais eilwaith. Tarodd Syr Alwyn ei droed yn y llawr a fflachiai tân o'i lygaid.

"Ac ni wyddech eu bod yn dod yma?" gofynnai drachefn. "Na wyddwn," ebai Stork, drwy y pellseinydd. "Yr haerllugrwydd," murmurai Syr Alwyn.

"Yr wyf yn cael y manylion gan Stamper," ebai Stork, a thystia na wnaeth ddim o'i le gyda'r plant. Y mae