rhai o'r bechgyn wedi myned nas gellir gwneud dim o honynt. Yr wyf yn deall fod ganddynt ryw fath o gwynion yn erbyn Stamper, ond nis gallaf gael gafael ar ddim a sylwedd ynddo. Dywedir ei fod wedi taro un o'r bechgyn, ond tystia ef i'r gwrthwyneb. Wrth gwrs, y maent wedi bod. gyda mi yn flaenorol, ac wedi i mi wneud ymchwiliad, ni chefais ddim o'i le y pryd hynny "
Diolch," ebai Syr Alwyn, a dododd y derbynydd o'r neilltu.
Ryw blant ddi—yn mynd i lywodraethu Pwll mawr Llifon ai ie?" A safai am ennyd fel mewn petruster beth i'w wneud, a phrin na ddaeth awydd arno anwybyddu Elis a'r ddirprwyaeth, a galw ar Eurwen i'w danfon ymaith heb air mwy i gael ei ddweyd wrthynt; ond meddyliodd wedyn mai prin y byddai hyn yn degwch a Stork, ei brif swyddog yn y lofa, ac mai eu danfon ymaith gyda cherydd llym ydoedd ei ddyledswydd.
Daeth Eurwen i'r drws, a safodd i edrych ar ei thad yn ei fyfyrdod, a gallai ddarllen ar ei wynebpryd y digllonedd a gynhwysai ei fynwes. Edrychodd arno gyda gradd o ymbil, heb ddweyd dim, a phrin nad anogai ef beidio dweyd dim yn gas wrth y dynion, ond prin y meiddiai wneud hynny ac aeth ei thad allan o'r ystafell heibio heb gymaint ag edrych arni.
Aeth yn ol at y dynion. Cododd y ddirprwyaeth ar ei thraed, ar unwaith.
"Elis." ebai. "Yr wyf yn synnu atoch—cywilydd— cywilydd. Y mae Stork ar y gwaith. Stork—ac yr yde chwithe yma—cywilydd," ebai drachefn.
"Beth mae Mr. Stork yn ddweyd?" gofynnai Elis yn foesgar, ac yn hollol hunan-feddiannol.