PENNOD V.
YR oedd y Llan a'r Pentref unwaith eto wedi adfeddiannu ei le priodol ym mywyd y byd, can's elai cerbydres ar cerbydres o lô yn ddyddiol i gyfeiriad Lerpwl a Birmingham o siding fawr Pwll Llifon, ac ar allt fawr y Llan. byddai mulod mawr a bach Jac y ffarm a'u llwythau glô i gartrefi y wlad yn cael eu llusgo yn araf i fyny, a sŵn. pastwn Jac ar y mulod mor aml ac y gallai Jac ddefnyddio ei fraich i'w ffonio; yn ddiau, llenwid awyr y wlad â ryw hyfrydwch oedd yn ymylu ar fod yn gynghanedd pan fyddai y gwaith mawr a'i dwrw peiriannol di-aros yn ernest. o ynni a gweithgarwch y cannoedd hynny a ddisgynnai i'w goluddion poeth ond dylwn ddweyd mai nid yn y modd y meddyliodd William Elis a'i ddirprwyaeth yr aeth y plant yn ôl i'w gwaith, gan nad pa mor ddymunol fuasai llwyddiant yr ymdrech yn y ffordd honno, ond yn hytrach trwy fygythiad llym ac yn wir roddi gwys cyfraith ar fwy nag un o'r bechgyn er i'r rhai hyn gael eu galw yn ôl cyn rhoddi prawf arnynt, ond y canlyniad naturiol o hyn oedd i'r swyddogaeth yr hon oedd yn anymunol eisoes—fawrhau yn ei hymchwydd tuag at y bechgyn.
Yr oedd Bob bachgen Ann, fel ei gelwid yn nhai y Wal, yn un o'r anffodusion hynny oedd yn gorfod dal a dioddef gorthrwm anodd ei ddwyn, yr hen Stampar, a daeth yntau adref ryw ddydd yn dristwedd, a phrin y gallai siarad â'i. fam, pan gyrhaeddodd y tŷ, ac fel y dylid crybwyll yr oedd mewn grym y blwyddau hynny yn y pyllau glô drefn—ac