y mae eto o ran hynny—drefn o osod y plant yn ddosbarthiadau o dan ofal un a enwid wrth yr enw Doggie neu Dogman, a byddai yr hawl y pryd hynny o osod cyflog y plant ar law y cyfryw berson neu swyddog, a byddai gostwng a chodi yn ol fel y mynnai ef. Dyna achos fwy nag un atalfa ym Mhwll Llifon o dan yr hen Stampar. can's os na fyddai y "dygiad allan" output yn foddhaol iddo, hynny yw i gynyrchu y budd, penodol iddo ef fel Doggie, byddai yr hen Stampar yn gwneud hyn trwy ostwng cyflog y plant, ceiniog oddi ar un, dwy, tair, oddi ar eraill ac felly ymlaen, a chythruddai hyn y plant yn aml.
"Be mater Bob?" ebai ei fam.
"Y Stampar aflwydd ne tair ceiniog o ddrop i mi mam, a 'drychwch ar y nillad i,"
Edrychodd ei fam arno yn syn, heb ddweyd gair am ychydig amser.
"Ydi o yn dechre arna tithe eto. Tair ceiniog y dydd o ddrop, rhag cywilydd iddo fo, ond hidia mono fo Bob bach, be' wyt ti am neud? Tyna'r dillad ne yn gynta,' ond ma' dy fwyd di yn barod; ond tyn dy ddillad Bob bach," ebai drachefn.
Eisteddodd Bob i lawr a gwnaeth fel y dymunai ei fam, tan wrandaw arni yn llefaru. "A gad y gwaith o dy feddwl Bob. Gad o," ebai drachefn yn ei ffwndwr bryderus, canys yr oedd meddwl gwynebu ar ddeunaw ceiniog o ostyngiad yng nghyflog bach Bob, y fath bwys i'w meddwl fel y carai os gallai anwybyddu y gwaith a phob peth o berthynas iddo ar unwaith. "Ia, gad o Bob bach," ebai wedyn.
"Be chi yn feddwl mam?" gofynnai y bachgen, fel tase ryw adwy wedi agor i fyd newydd heb yn wybod iddo;