"Un garw ydi Derwyn; ond ydw ine yn dechre trwblo dipyn am dana fo Bob bach. Ma'r ddinas wedi dryllio bechgyn mor glyfar a Derwyn cyn hyn, er ond tyrd, byta, a phaid a sôn ond wyddos ti be ma' Elin Parri, ei fodryb o yn feddwl. Ma' hi yn mynnu deud ma' gneud i ffor' am y Mericia ma' fo. 'Roedd hi di ca'l hanes gan rwun fod o yn ca'l llythyre oddi wrth bachgen y ffarm—Wills ydi enw fo ynte, hwnnw ath i ffwr' ddwy flynedd yn ol. Ond, dyma Gruffydd Huws yn dwad. Dowch i mewn Gruffydd."
Safai Gruffydd Huws yn y drws gyda pwt o getyn ysmygddu yn ei safn, gan edrych ar Bob yn plannu ei fforcian i'r cinio poeth pa un oedd ei fam newydd dynnu o'r pobty.
"Dewch yn ych blaen Gruffydd," ebe Bob drachefn, a'r pryd hyn daeth yr hen Gruffydd, fel ei arfer, i'r gongl yn ymyl y tân.
"Ia, 'steddwch ene Gruffydd," ebe Ann Jones. "Sut ma' Betsan Huws heddyw?"
"Fel arfer, yn iach graenus a chariadus, Ann Jones. Fel yr oeddym yn y dechreuad yr ydym yr awrhon, ac a fyddwn hyd y terfyn mi obeithiaf. Dene ti Bob," ebai a tarawodd ei law ar lin Bob. Ie, dene ti ddarn o lyfr gweddi a mawl a bywyd yr hen Gruffydd. Sut ma' hi yn dwad yn mlaen yn y Pwll acw rwan Bob? Biti na fase 'rhen Farchog wedi gwrando ar William Elis yn y Plas—ddim gwell mi ddalia —yr hen gelfi o swyddogion sgyna fo—ond Saeson, ydw nhw Ann Jones—a be' ddisgwyliwch chi?"
Dwed wrth Gruffydd Huws be ges di heddyw—wn i ddim be' ydw i yn mynd i neud Gruffydd Huws."
"Be ma' fo wedi neud efo ti Bob bach?" gofynnai Gruffydd.