bywyd y dyn, a 'sdwi'n cofio yn iawn rwbeth Scratcher oedd 'i enw fo,—a bu i Gruffydd aros ychydig eiliadau i geisio cael allan yn gywir enw y person.
"Ia, dwi'n meddwl yn siwr weld di ma' Scratcher oedd 'i enw fo."
"Wel, hidiwch befo'i enw fo Gruffydd," ebai Bob. "Rhaid bod nhw'n perthyn i'r Scratchers 'ne sy'n byw yn y dre. Dwi'n gwybod fod 'ne Scratchers yn byw yn y dre" ychwanegai Bob, "a de chi'n 'i nabod nhw mam?" ebai gan droi at ei fam drachefn.
Roedd gyna fo drol botie, a mi fydde'n dwad i'r pentre 'ma e's talwm i werthu potie," ychwanegai ei fam drachefn. "Run rhai yde nhw yn siwr i chi Ann Jones, ond beth bynnag i chi oedd hwn yn rhw fath o Giaffar yn Mhwll Isa, a fydde wastad yn galw y dynion yn "Blmonkeys."
Tynnodd hyn chwarddiad uchel gan fam Bob, ac aeth Bob i edrych yn ddyfaiach ar wyneb Gruffydd, gan ryfeddu rywfodd sut na fuasai wedi clywed rywbeth am y stori ryfedd hon.
"Ia Bob, os bydde rywbeth o'i le gyn yr hen Scratcher, dene'r enw y galwe fo'r dynion, ond un diwrnod mi welodd yr hen Scratcher y mwnci i ti. Do, Bob."
"I weld o?"
"Ia, mi gwelodd o, a ddeuda i ti sut y gwelodd o fo. Fel 'roedd nhad yn deud, ddyliwn i fod 'ne dalcen glô wedi bod li yn y fan 'no, a mi fydde 'rhen Scratcher yn gorfod mynd i edrych i sefyllfa'r dwr yn y talcen yn go amal i ti, a neb yn gweithio yn agos i'r lle. Beth bynnag i ti, ran ath o ono u diwrnod den: be' oedd yn 'iste o'i flaen o yn myl y talcen ond glamp o hen fwnci mawr hyll."