Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VI.

YR oedd blwyddyn neu ragor wedi myned heibio er's pan aethai Derwyn ymaith, ac yn naturiol yn

ystod yr amser yna, yr oedd pob math o amheuon wedi cael lle yn mynwes ei rieni, ac yn ngrym yr amheuon hynny elai nifer fawr o lythyrau i'r Ddinas boblog i ymholi am dano, ond yr hyn a'u dyrysai fwyaf oedd y llythyrau achlysurol a ddanfonasai Derwyn adref o Lerpwl, i geisio calonogi ei rieni yn ei absenoldeb, hyd nes yr aethant o'r diwedd i amheu ei lawysgrif, ac yn y llythyr diweddaf a chawsant tybiai Nel, ei chwaer, fod yna le cryf i ameu hynny; ond o ba le o'r ddinas nid oeddynt fymryn agosach i wybod

"Ai fo ydi o tybed?" ebai Nel, Daliai i syllu ar y llawysgrif. "Ydi'r llinell yma ddim yn hollol fel yr ysgrifennai, mam,—na'r llythyr drwyddo o ran hynny. Gwelwch, ond aroswch am funud." Estynodd allan yr holl lythyrau, yna dygodd ei wers-lyfrau, a threuliodd gryn amser i geisio'u cysoni.

"Ydi wir, Miss Nel," ebai Gwen, yr hon a alwyd ati i'w chynorthwyo.

"Mi ddaliai i nag ydi o ddim," ebe Nel, "er fod yna debygrwydd neilltuol.

"Ewch a gofynwch ddaw Mr. Lewis yma am funud. Mae o gartre."

Aeth Gwen i gyrchu Mr. Lewis, Gweinidog Bethel,—yr eglwys ym mha un yr ymaelodai'r teulu.

"Fase' niawn ca'l barn Mr. Lewis, mam. Be chi'n ddeud?" 'Wel, rwyt ti wedi gyru am dano fo Nel, a 'does dim harm yn hynny, tase tada yma."