rhyfedd Mr. Lewis, danfon llythyre o Lerpwl na fedrwn i yn ein byw ga'l allan o le ma' nhw'n dwad, ryde ni wedi danfon a danfon at 'i fodryb o, a ma' honno wedi gneud pob ymchwiliad posibl, ond 'does neb wedi'i weld o. —
Dw ine wedi danfon at Mr. Parri, gweinidog Rd., yn 'i gylch, ebai Mr. Harris, a rhoddais y deffiniad goreu posibl o hono pan oeddwn i yno'r Nadolig yn cynnal y cwrdd mawr, a rhedais fy llygaid ar y gynulleidfa fawr, a cheisio gweld 'i wyneb o—ac mae Mr Parri yn un o'r rhai mwyaf difrif gyda gorchwyl o'r fath, a gadewch i ni fod yn hyderus, ac fel dwi wedi deud mi ddof eto gyda Mr. Humphreys unrhyw ddydd i edrych beth allwn ni neud—yna trodd Mr. Lewis ei lygad at Nel.
"Ai dyma'r llythyr diweddaf Miss Humphreys?"
"Ia, Mr. Lewis, chi a mam a mi, fyn Nel feddwl mai nid llawysgrif Derwyn mohoni ond—"
"Gadewch chi lonydd i Mr. Lewis, mam."
Edrychodd Mr. Lewis ar y fam can's ni wyddai beth olygai i Nel atal ei mam.
"Rwan Mr. Lewis, dyma chi y llythyr diweddaf." Gafaelodd Mr. Lewis yn y llythyr. "Beth yw hwna?" gofynnai am y gwerslyfr pa un a ddaliai Nel yn ei llaw.
"Dyma ei lyfrau ysgol Mr. Lewis, a dwi'n meddwl fod ene gryn dipyn o wahaniaeth."
Ac yr ydych eisieu fy marn i arnynt?"
"Yr ydym eisio i chi gweld nhw, Mr. Lewis—a cewch roddi eich barn."
"Wyddoch chi mod i yn dipyn o expert ar y gwaith yma, Miss Humphreys? Hefyd, bum yn byw pan yn Llundain, yn yr un gymdogaeth ag un o'r experts mwyaf ar lawysgrifau, ac yn wir cefais gryn dipyn o gwmni Mr. Telar, ac yr