oedd amryw achosion dyfal yn dod i'w ran i roddi tystiolaeth arnynt. A dyma lythyr diweddaf Derwyn?"
"Ie, dyma'r dyddiad,—ddoe, y pumed ar hugain, a dyma un o'i werslyfrau," ebai drachefn.
"Ia dyna ei Gompo fo Mr. Lewis."
"Ia, rwy'n gweled," ac edrychodd Mr. Lewis yn fanwl arno, am ychydig amser, a throi ei ddalennau ôl a blaen, yna, syllodd yn fanwl ar y llythyr, yn y man dywedai,—"Dim petruster o gwbl, Miss Humphreys."
Cododd mam Derwyn ei golwg tuag ato, gyda ryw ddwyswên ar ei gwynepryd, "Nag oes Mr. Lewis," ebai.
"Dim o gwbl, Mrs. Humphreys. Gwelwch yma Miss Humphreys. Y mae ei a, w, s, ac f, yn unffurf drwy y ddwy fel ei gilydd, ac yn wir, yr holl lythrennau, dim amheuaeth o gwbl. Wrth gwrs, y mae llawysgrif y llythyr fel pe wedi ei ysgrifennu o dan ryw ansawdd feddyliol wahanol i'r gwersi, ryw ffurf o osgo sigledig neu amhenderfynol yn nodweddu gosodiad y brawddegau. Dyna'r cwbl Mrs. Humphreys, ac rwy bron yn sicr y tystiai yr expert mwyaf mai'r un llaw sydd wedi ysgrifennu y naill fel y llall. Oes, ne ryw gysur i chwi yn hynny Mrs. Humphreys? Ond be ydw i yn gofyn?"
"Dyna yr ofn oedd arnom Mr. Lewis, ei fod wedi rhoddi rhyw un ar waith i ysgrifennu y llythyrau hyn drosto i'n twyllo, ac fod yntau erbyn hyn ar y cefnfor, os nad bellach wedi glanio yn yr America, neu rywle arall."
"Ie, yn ddiau, yr oedd ryw reswm dros ofni hyn, Miss,ac efallai—ond—"
Edrychodd Nel a'i mam arno gyda'r dyfalwch mwyaf.
"Beth, Mr. Lewis?" ebai Nel.