Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Edrychodd y gweinidog arni am ennyd. "Wel," ebai, oedd ne rywbeth a wyddoch am dano yn gymhelliad i'w dynnu i'r America?"

Pam yr ydych yn gofyn hynny Mr. Lewis?" gofynnai Nel.

"Gadewch i mi weld y llythyrau eraill. Y mae wedi danfon tua pedwar o honynt onid yw?"

Estynodd Nel iddo y llythyrau oll a ddanfonasai Derwyn gartref, a chymrodd y gweinidog bwyll i'w darllen yn ofalus.

"Y mae yna ddyddiad ar bob un o honynt, rwy'n gweld."

"Ydi mae pob un wedi ei ddyddio Mr. Lewis. Be sydd yn hynny?"

"Mae hynny yn rywbeth yn erbyn y dybiaeth oedd yn cynnyg i fy meddwl, Miss Humphreys, ac eto—gall hynny fod yn ddim. Derwyn yn fachgen craff iawn."

Ni ddywedai y fam ddim, ac edrychai Nel arno gyda ryw ofn ddisgwyliad yn crychu ei haeliau prydferth. Canys yr oedd yn amlwg ar wynepryd y gweinidog, ei fod yn ofni ryw gyfrwystra ryfedd o du Derwyn, trwy iddo ofalu fod i'r cartref gael ei dwyll-hysbysu yn rheolaidd gyda'r llythyrau.

"Efallai," ebai Mr. Lewis. "Ond cofiwch nad yw ond tybiaeth noeth yn fy meddwl, sef ei fod wedi ysgrifennu nifer o lythyrau gyda'i gilydd, ac yna wedi eu trosglwyddo i ofal un i'w danfon yn rheolaidd—dyna—"

"Ac fod yntau wedi mynd o Lerpwl, Mr. Lewis?"

"Wel, tybiaeth yw cofiwch. Tybiaeth noeth. unffurf y llythyrau yn awgrymu rywbeth felly i fy meddwl ond gobeithio fy mod yn anghywir." Yna, trodd at y fam, "Ond dyna sydd yn fendigedig Mrs. Humphreys, y mae ei