Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymeriad yn loyw, ac yn lân. Dim duwch o'r cyfeiriad yna, ac y mae Derwyn mi gredaf, yn gweithio allan ryw gynllun yn ei feddwl, ac ond odid na chawn ni ym mhentref Llifon ryw ddydd, achos i lawenychu o'i blegid. Cymerwch fy ngair, y mae rywbeth yn glynnu yn fy meddwl i'r cyfeiriad yna, Mrs. Humphreys, ond os oes rywbeth a allaf fi ei wneud i'ch helpu, yr wyf at eich galwad unrhyw amser."

Ysgydwodd y Gweinidog law â'r teulu ac aeth ymaith Yr oedd ei dŷ y cartref nesaf ond un i'r 'Bryn,' cartref Derwyn.

"Fase'n well gen i tase ti heb ddanfon am Mr. Lewis, base wir Nel. O! leia' ma' fo wedi gnend i mi feddwl fod Derwyn ym mhell—bell—o ydi Nel."

"Wel, mam dwi ine yn becsio," ebai Nel, "a fase well gen ine beidio 'i glywed o yn trin y mater yn y ffor' ddaru o, ond yde chi'n gwybod am Mr. Lewis, ydi o yn meddwl dim drwg—dim drwg mam, ac wrach fod o yn cyfeiliorni drwy'r cwbl. Peidiwch a sôn be ddeudodd o wrth fy nhad."

"Ddim am y byd, Nel"