PENNOD VII.
YR oedd Mam Bob wedi cerdded liaws o weithiau y dydd hwn i waelod y buarth i edrych a welai hi Bob yn dod. Wrth gwrs, byddai bob dydd o ran hynny wedi i'r cloc daro pedwar yn cymeryd tro i lawr y buarth i wylio Bob yn dod adref o'i waith. Dynes fechan, lân, bert ydoedd mam Bob—ei gwallt yn ddu fel y frân a'r wyneb can dlysed ag y bu erioed, can's nid oedd eto ond ychydig flwyddau dros ei deugain oed, a phymtheg o'r rhai hynny a dreuliodd yn weddw, gyda'i holl fryd a'i phryder ar ei hunig fachgen. Ie, a munud y tarawai y cloc bedwar byddai i lawr i'w wylio, ond heddyw yr oedd rywbeth mwy na'r cyffredin yn ei gofal am Bob, ond yn y man dacw Bob yn dod a sŵn ei glocsiau caled yn adsain yn yr awyr glir, a'r gerddoriaeth felusaf i fam Bob oedd clywed swn ei droed yn dod adref o'r hen Bwll peryglus. Arhosodd hyd nes y daeth i'w hymyl o'r bron, yna cerddai yn araf o'i flaen i'r tŷ.
"Yr wyt ti wedi dwad Bob," ebai, "hwde " dyma lythyr iti." Estynodd ef iddo oddiar fan neilltuol, ar yr hen settle.
O Lerpwl mam—Derwyn mi fetia"—ebai drachefn, ac agorodd ef ar unwaith.
"Ia, mam, Derwyn—Wel, wel.—"
"Wel, dyna'r bachgen ryfeddaf a fagodd Llifon erioed," ebai'r fam. "Oes na 'dress arno fo Bob? gofynnai wedyn. "Ydi o 'isio ti 'swennu?" ychwanegai, ond yr oedd Bob wrthi yn ddyfal yn ei ddarllen.
"Mam!" ebe Bob yn y man, a braw yn ei lais. "Be Bob bach?" ebai hithau tan welwi.