"Ma' fo mynd i'r 'Mericia, ond ma' fo'n begio arna i beidio deud wrth neb. Cofiwch chi rwan."
"Wel Bob," ebai hithau, "fase'n well gen i ti beidio deud nene witha i. Base Bob, a sut y gallai gadw peth fel ene oddiar fam y bachgen?"
"Wrth beidio'i ddeud o mam, dene'r ffor,' a pheth arall fyddwch chi ddim amgenach ar ol i ddeud o—a faddeua Derwyn byth i chi am 'i ddeud o mam."
"Ydi o yn deud rwbeth arall Bob?"
"Ddim ond yn cofio ato chi mam—O ia, ac os ceiff o lwc yn y Mericia fod o yn mynd i dynnu'r wal 'ma i lawr, ac yn mynd i alw'r tai 'ma—fildio tai newydd 'ma fo'n feddwl"
"Ia dwed" ebe'r fam.
"Ia, a mynd i alw'r tai newydd yn dai'r Parc."
"Fydd dy fam yn nhŷ'r bedd pryd hynny, Bob bach, a drws o bridd ar 'i gwyneb hi, ond tyn dy ddillad machgen i, a chadw'r llythyr yn saff."
"Cofiwch chithe," ebe Bob, "beidio deyd—"
"Wel, ma' nhw wedi bod yn gofyn i mi lawer diwrnod a oeddet ti wedi ca'l llythyr, ond ma' nhw drien yn dechreu blino gofyn rwan."
"Peidiwch a sôn am y llythyr, dene'r cwbl."
"Dwi wedi crasu dy fara di heddyw i roi yn y llaeth tria'i fyta fo Bob. 'Roedd y bara dipyn yn fresh. Soniodd James rwbeth am y dyn 'ne wrtha ti heddyw?"
"Do, a mi ddaru mi ddeud y trie chi neud lle iddo fo. Ma' fo yn ddyn neis medde fo, a fase fo'n ca'l aros ono, oni bae fod Cathrin a'i gŵr yn dwad adre i aros, ma' fo'n ca'l gwaith iddo fo acw, a ma' nhw yn 'i ddisgwyl o heddyw ne fory."