Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ellith ddwad pan y myno fo, ma'r tŷ yn lân. Elli dithe 'molchi Bob, dene'r ffor' ore i ti." **** Yr oedd Bob wedi ymolchi a gwisgo am dano, ac erbyn hyn yr oedd gwyll y nos yn araf ymlusgo dros y tir. Aeth Bob i'r drws i sefyll fel y byddai weithiau, wedi gwisgo am dano, a dyna ef yn ol i'r tŷ.

"Ma' ne rw ddyn wedi mynd i fyny buarth John Pont, mam."

Yr oedd John Pont yn byw yn un o'r tai cyntaf yn y Wal, a naturiol oedd i ddieithrddyn wneud ymholiad yn y ty cyntaf a gawsai.

"Raid ma' holi ma' fo," ebai yn mhellach, a chyn pen ychydig funudau dyna sŵn ei droed, yn dod i fyny y buarth. "Ia, dyma fo mam, yn siwr i chi," ebai Bob. A dyna guro ar y drws.

"Cer i'r drws Bob," ebai hithau, ac er i Bob fynd i'w agor dilynodd ef yn lled agos, ac wedi agoryd y drws dyna lais

"Yma mae Mrs. Ann Jones yn byw?"

Trodd Bob ei olwg ar ei fam.

"Ie," ebe ei fam.

"Rwyf wedi cael—

"Dowch i mewn, dowch i mewn"—ac aeth Bob i geisio cadair iddo ar unwaith.

"Dyma fo gader, mam," ebe Bob. "Steddwch," ebai wrth y dyn, ac wedi iddo eistedd ailgydiodd yn ei neges, pa un a geisiodd ei hadrodd wrth y drws.

"Ia," ebai, wedi cael fy nghyfeirio yma i ofyn a allech fy nghymryd fel lletywr."

Edrychodd Bob ar ei fam, a'i fam arno yntau.