"Gan pwy felly?" ebai hithau, "a fu mi 'rioed yn cadw lodgiwr o'r blaen, er—"
"Gan James Harris, rwyf wedi bod yno yn aros am dros wythnos, a deallaf fod y ferch a'i gŵr yn dod adre, neu ni fuasai raid i mi symud. Yr oeddwn yn eithaf hapus yn nhŷ James Harris."
Siaradai gyda llais dwfn, eglur. Pob brawddeg yn cael ei hacenu mor glir a phe buasai yn darllen y llithoedd. Yr oedd rywbeth yn hynod yn ei lais dwfn, melodaidd, a soniarus fel y peth cyntaf o'r bron a ofynodd Bob iddo ydoedd "Yde chi'n gantwr dwi'n gweld "—a daeth y geiriau hyn a gwên dros ruddiau iach gwridog.
"Buaswn yn caru bod, rwy'n hoff iawn o ganu," ebai, ond prin y gallaf ddweyd fy mod yn ganwr."
"Ma' gyna' chi lais iawn,"ebai Bob.
"Wel, mae pob Cymro yn hoffi cael y deyrnged yna, pa un bynnag a fydd ganddo lais a'i peidio," ebai y dieithryn yn ol, a thra yr oedd Bob yn siarad ag ef, yr oedd ei fam wedi cymryd golwg llawn o hono.
"James Harris yn ei roi yn ddeigien oed," meddai wrthi ei hun," nag ydi, nag ydi," siaradai wrthi ei hun, a phrin y gallai feddwl ei fod ryw lawer dros ei ddeg ar hugain oed, ac er i'w wallt du fod ac ychydig frithder ynddo, eto yr oedd ryw hoen ieuengrwydd yn ei lygaid glas tywyll, rhai a wibiai ôl a blaen dros furiau y bwthyn nes yr oedd mam Bob yn sicr yn ei meddwl na allai fod lawer dros ei ddeg-ar-hugain oed. Yr oedd iddo adael ei locsen dyfu yn lled isel, yn rhoddi ryw fath o argraff heneiddiwch cynar ar ei wedd, fel y byddai y pryd hynny ac eto hefyd, i'w weled yn awr ac eilwaith gyda phersonau yn y wlad.