igien munud." Trodd Bob ei olwg ar y cloc. Yr oedd ei fam eisoes ar ymbaratoi i fynd i'r capel.
'Well i mi fynd Bob, ac os gwelai rai o bobl y Bryn—"
"De chi ddim i ddeud mam, 'chos ma' Derwyn wedi begio, ond ma' 'ne stori yn y gwaith acw heddyw fod bachgen Plasddol wedi ca'l llythyr ganddo fo, ac fod o wedi mynd. Rhyfedd os ydi o, ac yn gyru llythyr fel yna i mi o Lerpwl."
"Ddeuda i ddim byd ynte Bob, ac o ran hynny prin y bydd yr un o honyn nhw yn y capel, oedd ne run o honyn' nhw wsnos i heno, er fase ni'n caru iddo nhw wbod fod ti di ca'l llythyr, rywfodd, ond gan 'i fod Derwyn yn dy siarsio di beidio deud fydd o fawr o help idda nhw, mi wranta, ac os ydi o wedi meddwl mynd i ffwr' 'does dim a'i rhwystra bellach—ond cadwa dân Bob, dyma fi yn rhoi dŵr yn tegell i ti. Mi ddof adre yn syth o'r capel, Bob" ebai drachefn. "Faswn ine'n dwad mam, ond dwi'n teimlo'n flin, a 'dai ddim allan o'r tŷ heno."
Wedi i'w fam fynd, eisteddodd Bob ger y tân, a chymerodd lyfr yn ei law. Yr oedd Bob yn hoff o ddarllen yn neilltuol lyfrau anturiaethus, ac fel y digwyddai fod, yr oedd ganddo un oedd Derwyn wedi ei roddi yn fenthyg iddo, yn dwyn y teitl, "O'r Bwthyn i'r Castell," ond prin yr oedd wedi darllen pennod o hono dyna gnoc ar y drws, ac aeth Bob i'w agor.
"Hello, chi sy' ne," ebe Bob.
"Dowch i mewn."
"Ydi'ch mam i mewn?" gofynnai.
"Ma' hi newydd fynd i'r capel, Miss Humphreys."
"Fu mi ddim yn y Wal ma e's talwm Bob," ebe Nel, a gwên ar ei hwyneb.