Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Edrychodd ar y cloc. "Roedd mam yn deud y base hi adre yn syth o'r capel, a ma' hi rwan yn tynnu at wyth—igien munud —"

"O Bob, fydde mam mewn braw. Ddaru mi addo peidio bod ond ychydig funudau, a 'lase bod fi wedi rhoi y neges i chi Bob. Dene ydi hi, ma' nhad yn meddwl mynd i Lerpwl yfory. Ma' Felix Mason wedi gweled Derwyn o gwmpas y landing stage echdoe. a mi fu yn siarad efo fo, ond wydde fo ddim byd am yr hanes. Wedi dwad adre mae o am dro o Sunderland, ac 'isio galw yn Lerpwl a heddyw gwelodd y nhado, a ma' fo yn meddwl i chi fynd efo fo eto Bob—ac wedi i chi fynd ono, i chi gerdded o gwmpas, a nhad fynd i aros yn rhywle o'r golwg, ag i chi' fynd a Derwyn ata fo, os dowch chi ar i draws o, rw blan fel ene, ebe'r chwaer a'i hanadl yn cyflym.

Edrychodd Bob arni yn synedig, "Felix Mason wedi weld o?" gofynnai.

"Ia, ma' fo wedi weld o yn ddamweiniol felly, a ma nhad yn meddwl wrach y galle chithe hitio arno felly Bob, ac wedyn i'w dywys o yn anymwybodol at fy nhad. Ryw beth felly sy' 'di taro yn 'i ben o, a ma' fo yn benderfynol o fynd os ewch chi efo fo, chostith o ddim i chi Bob, a mi neiff y'ch colled gwaith chi i fyny. Be yde chi'n ddeyd Bob?"

"Wel, ma' 'ne rwbeth yn hwne," ebai Bob, a llamai i galon yn y rhagfeddwl o fyned gyda thad Derwyn ar yr ymgais o gael hyd i'r bachgen colledig, a daeth y llythyr a dderbyniodd i'w feddwl ar unwaith, gan wneud yn chwilfriw y penderfyniad a wnaethai yn gynt o gadw yn ddirgel ei gynnwys. Rywbeth alla i neud, Miss Humphreys, a dwi'n siwr y bydd mam yn falch i mi fynd efo'ch tad—a 'drychwch