Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

er 'roeddwn i wedi meddwl fel ffrynd Derwyn beidio a'i ddangos i chi."

"Be ydi o Bob bach," gofynnai Nel a'i chalon yn llamu o obaith.

"Llythyr gan Derwyn, a dwi wedi'i gadw fo yma yn saff" ac estynodd ef oddi ar risyn uwchaf y shilff dderw a addurnai y bwthyn a rhengau o blatiau gleision, ac ar y shilff uchaf pob math o lestri coffa y teulu.

"Ia, dyma fo," ebai Bob. "Maddeuwch i mi Miss Humphreys," ebai, a gwrid yn ei wyneb. "Ond cewch weld y llythyr fel mae yn begio arno i beidio a gadel i neb wbod, ac wrach y digia efo fi—a mi fydd hynny yn rywbeth go gas—"

"Na, ddigia fo ddim Bob, oherwydd mae'r achlysur yn galw am eich cynorthwy llwyraf—fy mam—y mae yn tori ei chalon am dano."

Darllenodd Nel y llythyr gyda'r syndod mwyaf, ac ebai, "Wyddoch chi be ma' Mr. Lewis, y gweinidog yn feddwl, ma' fo'n meddwl fod Derwyn wedi mynd eisoes tros y dŵr, ac mae rywun arall sy'n danfon y llythyrau—ond llawysgrif Derwyn ydi hwn, a dene Felix Mason wedi weld o. Rwy'n falch bod chi wedi dangos hwn i mi Bob. Ac mi ewch efo nhad fory?"

"Af Miss Humphreys."

"Diolch Bob, dyna lewyrch bach o obaith i dywynu arnom. Mi faswn yn hoffi aros i weld y'ch mam, ond dyma rywun yn dwad, nid y'ch mam," edrychodd ar y cloc.

"Nage," ebai Bob, sŵn troed dyn ydi o. Rhaid ma'r boss newydd 'ne ydi o Miss Humphreys."

Symudodd Bob heibio Nel at y drws, a dyna gnoc. Agorodd Bob ef.