Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ma' fo'n sgolor tan gamp. Efo Rasp, y twrne yn y dre, a ma'i le fo'n 'gored tae o ddim yn dwad yn ol am flwyddyn."

"Di o ddim wedi gneud dim o'i le felly."

"Dim spot ar 'i garictor, Mr. Jarvis. Golled i mi ar i ol Mr. Jarvis. Dim byd yn uchel yna fo. Gas gyna fo snoberry—Derwyn, a 'roedd o mor falch o ddwad i'r tŷ bach 'ma—a mam a fine'n falch o'i weld Mr. Jarvis —ia, un o'r bechgyn mwyaf hoffus yn Llifon. Ma'i dad o yn cadw y siop fawr Gemist 'ne yn y Llan, dyn dipyn yn stern ydi'i dad—er glwes i 'rioed mono fo yn deud gair bach o'i le am 'i dad—dim gair—a ma'n rhyfedd rwsut fod o wedi mynd."

"Wel, mae pethau mwy rhyfedd na hwne yn digwydd," ebe Jarvis, "ac fe allai y deuwch chi ar 'i draws o—fydd 'i dad o ddim gyda chi mae'n debig—a dene'r detective work sy' i chi yfory. Mi gawn yr hanes pan ddeuwch yn ôl.'

"Wel, 'beithio bydd o werth 'i ddeud," ebai Bob.

Mi fydd yn siwr," ebai Jarvis. Yr oedd wedi codi ar ei draed ac yn cymeryd sylw o rai o'r darluniau ar y mur, ac ar rai ohonynt edrychai yn lled fanwl.

"Eich tad Jones," ebai, a trodd gan edrych i fyw llygad Bob—yr un lygad ag ef."

"Ia, fy nhad—a dene mam. Fe gafodd nhad 'i ladd yn y Pwll mawr Llifon."

"Llawer o ddamweiniau yn y pwll Jones."

"Prin yr â diwrnod heibio heb rw fath o accident, ebe Bob.

"Ie, gwlad yr anturiaethau ydyw Cymru fach, cynifer o ddamweiniau erchyll sydd yn cymeryd lle yn barhaus