Prawfddarllenwyd y dudalen hon
yng nghrombil ei daear. I mi Jones, y mae cymaint o'r anturiaeth yn y Pwll glô ag yn unman, ond fel arall y tybir, dros y moroedd mae'r cwbl, ryw waith aur, neu ynghanol anwariaid, ie, a chymaint o hono yn y Pwll."
"Ia, ar ol rwbeth fel ene yr a'th o i ffwr' Mr. Jarvis. Clwes o'n deud dim digon o adventure yn offis Rasp."
"Wel, rwyf yn hoffi'ch cartre' bach chwi yn fawr," ebai wrth gerdded yn ôl at y gadair. Ar hyn dyna sŵn troed mam Bob, a chauwyd llyfr eu hymddiddan.