PENNOD IX.
DAETH mam Bob i'r tŷ o'r capel a'i gruddiau yn llaith gan ôl dagrau ac yn wir, wrth iddi gau y drws, daeth ochenaid o'i mynwes, fel yn ddiarwybod iddi.
"Be mater mam?" gofynnai Bob. "Yde nhw wedi eich digio chi heno?"
Naddo, Bob."
"Ma' 'ne ôl crio ar y'ch wyneb chi, a 'de chi ddim digon hen eto i grio am y nefoedd, 'run fath a ma' 'rhen Ann Morus yn 'neud."
Yr oedd Bob wedi codi i gyfwrdd ei fam, ac ni feddyliai mam Bob, fod Mr. Jarvis yn y tŷ, can's eisteddai ef yng nghornel yr hen bentan.
"Pwy sy' efo ti?" gofynnai pan welodd hi ef.
"Mr. Jarvis mam. 'Roedde chi wedi anghofio setlo efo fo."
"Fase raid iddo fo ddim dwad yn ôl i hynny Bob, ond mi geiff aros efo ni i ga'l paned."
"Na, na wir Ann Jones," a chododd ar ei draed ar unwaith, gan edrych i'w gwyneb trist.
"Ma' 'ne fachgen o'r capel 'cw, a wir 'roedd o yn ffrynd garw efo Bob 'ma, a ma' fo 'di rhedeg o'i gartre. Rw ddyn wedi'i weld o yn Lerpwl, a mi ail gododd y greithen. 'Rhen John Llwyd gynyg bod ni yn troi y seiat yn gwarfod gweddi ar ran Derwyn Bob, a 'roedd hi 'di mynd yn ddryllie acw. Wyt ti 'di berwi'r tegell Bob? Cheiff o ddim mynd odd'ma heb 'paned."