PENNOD X.
SIOMEDIG fu y daith i Liverpool, ac er gwneud pob ymholiad yn y swyddfeydd morwrol, ni chafodd y tad ddim a'i cysurai o barthed i'w fachgen. Yr oedd yna lanc tebig i ddesgrifiad y tad o'i fachgen wedi morio ar y "Carafania" ddechreu'r wythnos, ond yr oedd Felix Mason wedi ei weled ar ol i'r llong honno forio ymaith, ac nis gallai dim fod o'i le yn nhystiolaeth Felix Mason, a daeth y ddau yn ol i Llifon, yn hollol anobeithiol.
Yr oedd mam Bob wedi treulio'r dydd hwn gyda'r ofnau mwyaf yn ymsiglo yn ei mynwes, er iddi gael gair pendant Edward Humphreys ynglŷn â diogelwch Bob. Eto, nis gallai lai nag ofni i glefyd Derwyn afael yn ei bachgen hithau, a phan glywodd sŵn ei droed yn dod i fyny y buarth yr oedd yn un o funudau hapusaf ei bywyd.
"Wel Bob bach, wyt ti wedi dwad?" ebai wrtho.
"Ydw mam, ac wedi methu, dim golwg ar Derwyn yn unman."
"Wel, druan, druan o'i dad o Bob bach, Be ma' fo'n ddeud?"
"Beth all ef ddeud mam, ond boddloni." ebai yntau.
"Fuo chi yn nhŷ'i fodryb o?"
"Fu mi ddim mam, ond fe aeth tad Derwyn yno dipyn cyn i ni ddwad gartref. Yr wyf yn becsio am dano fo. Mi dorodd i grio yn y tren, ac roedd o 'isio i mi fynd efo fo i'r Bryn, ond allwn i ddim mynd mam."
"Ia, fase Nel a'i mam yn licio ca'l yr hanes gyna ti Bob."