"Tase fo yn hanes difyr mam, mi faswn yn falch o fyn d, ac wrach y daw Nel yma. Roeddwn i yn meddwl y base Mr. Jarvis yma heno."
"Ma' fo wedi dwad Bob, a ma' fo 'di mynd i neges i nol rwbeth at ddolurie. Ddaru ne rw fachgen frifo yn y gwaith yn 'i ymyl o heddyw, ac roedd gyna nhw ddim byd i helpu y plentyn, a ma' fo 'di nol rwbeth o siop Tad Derwyn i fynd efo fo i'r gwaith. Ia, roedd o yn deud tase gyna nhw fandages na fase'r bachgen ddim wedi gwaedu fel y darfu o Bob. Ma' fo yn ddyn a theimlad gyna fo, a ma' hynny yn rwbeth yn yr hen bwll 'cw. Wyt ti 'isio bwyd?"
"Ddim rwan mam. Fe aroswn ni tan ddaw y dyn ene i ni ga'l swper efo'n gilydd."
"Mi ddaw yn y munud i ti, Bob," a chyn bo hir dyna swn ei droed, a chan agor y drws aeth i fewn ar ei union. "Dwi ddim am guro Ann Jones," ebai, yna, syrthiodd ei lygad ar Bob.
"Hello Detective Jones. 'De chi wedi cyrraedd, ac wedi llwyddo?"
Ysgydwodd Bob ei ben, gan wenu arno, "Naddo wir Mr. Jarvis, wedi methu yn llwyr."
"Bad report ai ie. 'Wrach y gwnewch chwi yn well y tro nesaf, Jones," ebai gyda llais dwfn serchog.
"Fuo chi yn Liverpool o'r blaen?"
"Do, ryw deirgwaith neu ragor," ebai Bob.
"Wel, 'roedd eich mam mewn ofnau am danoch, onid oeddech chi Ann Jones?"
"Ma' colli un da o Llifon yn llawn gormod Mr. Jarvis, ac am wn i nad yw hi yn hawddach i Mr. Humphreys druan golli Derwyn, nag ydi i mi golli Bob 'ma."