"Faint sy' er's pan mae y llanc yna 'de chi'n sôn am dano wedi mynd?"
"Faint Bob?"
"Mae tros flwyddyn, mam," ebai Bob.
"Bobl bach, gall fod yn California, ac wedi ei gladdu erbyn hyn."
"Ma' 'ne un o'r enw Felix Mason, un oedd yn arfer byw yn y Llan 'ma, wedi weld o ar y landing stage dydd Mawrth diweddaf," ebe Bob, un sy'n ei adwaen o cystal a ninne ynte mam?"
"Ac wedi bod yn siarad efo fo Bob," ebai' i fam i'w gadarnhau, "a meddwl oedd 'i dad o y 'llase Bob a fo daro ar ei gilydd, fel ma' pawb sy' mewn trwbl yn edrych ar rwbeth i afael ynddo fo—ond,—ma'i fam o wedi bod yn ddrwg iawn ar 'i ôl o, ond ma' ganddi un cysur, 'roedd o yn fachgen gwir dda, ac 'wrach ma' i'w brofi o bydd hyn. Gwelsoch hi fel ene lawer tro, ac fe'i gwelsoch hi fel arall o ran hynny."
"Wel do, Ann Jones," ebai Jarvis. "A deud y gwir i chi, dyna mhrofiad i, ac mae dyn yn cael profiad newydd wrth symud. 'Does dim llawer o werth aros yn yr unfan os na fydd raid. Dyna ddaeth a'r America i'r golwg, ynte Jones?" ebai gan droi at Bob. "Dyn yn anturio, a dyna o'r ochr arall a ddaeth a Columbus i'r golwg, fel mae dau beth pwysig wastad yn dilyn anturiaeth, os bydd iddi droi yn llwyddiant, sef dod a'r dyn a'i wrthrych i'r amlwg. Wrth gwrs mae i fachgen da, hoff, fel yna adael ei gartref yn siwr ofod yn peri tristwch i'w rieni, ond mae gobaith o bob man ond y bedd, Ann Jones. Gwelais y dydd o'r blaen, Ann Jones, ddyn ieuanc yn cael ei roddi