Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y bedd a'i fam yn weddw. Rywbeth fel yna fydda i yn meddwl sydd yn wir galed, galed. Dyna'r dyn yna yde chi yn sôn am dano, wedi ei weled y dydd o'r blaen, ond gadawn iddo. Faint sy' er pan yde chi yn gweithio yn y pwll 'ne Jones?"

"Faint mam? Pum mlynedd? Tair ar ddeg oed oeddwn ni."

"Ia, tair ar ddeg Bob. Rhyw grwt bychan, a digon eiddil at hynny, Mr. Jarvis; ond d'oedd dim help. Yr oedd y Living Officer yn gofyn pam nad aethai fo i'r pwll i weithio, a 'roeddwn ine allan bron bob dydd yn glanhau a golchi, a dim llawer i ga'l am hynny."

"Be' oedd o yn allu 'neud yn y pwll mor fach a hynny?" ac edrychai Jarvis yn graff ar eiddilwch Bob, ag yntau erbyn hyn tros ei ddeunaw oed.

"Tendio'r drws, ynte Bob? Ma' gyna fo dipyn o gywilydd rwan Mr. Jarvis, 'chos fydde'n dipyn o sport gan blant y Wal o blant fydde'n cychwyn yn y pwll i dendio'r drws." Ac os aethai bachgen i ganlyn mul yn beth cyntaf bydde hynny yn uchel yng ngolwg y plant, ond i 'dendio drws' es di ynte Bob?,

"Ia, ond fues i ddim efo'r drws yn hir. Rhw fis mam."

"Promotion to the donkey's tail," ebai Jarvis gan chwerthin.

"Nage," ebe Bob. "Ges i fynd efo'r fireman oddi wrth y drws."

"Dene promotion led uchel Jones, rwy'n sicr," ebai Jarvis.

"Ia, 'roeddwn i yn cael gweld mwy," atebai Bob.

"Ia, mi ga'th fynd efo dyn reit glen, Mr. Jarvis; ond