Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fu o fyw fawr i gid. Bu farw efo ffefar, a fuo Bob fawr o amser efo'r fireman ar ol i John Befan farw, a byth er hynny rw waith caled, brwnt, ac at hynny wastad yn ca'l 'i roi mewn lle g'lyb. Dene be' ma' Bob wedi ga'l byth er hynny, Mr. Jarvis."

Edrychodd y fam ar wyneb eiddil ei bachgen tra yn adrodd ychydig o'i helyntion yn y pwll i Mr. Jarvis, yr hwn a wrandawai yn astud ac yna dywedodd wrthi pan ar adael y siarad i fyned i baratoi y swper,

"I mi, Ann Jones," ebai, " y mae mwy o'r anturiaethus yn y pwll glô o lawer nag yn anialdiroedd yr America ac Awstralia bell."