"Arch ag amdo sydd yn barod,
Erbyn windio John i'r lan,"
"Dwi'n meddwl mod i wedi clwed y gân ene Gruffydd Huws," ebai mam Bob.
"Beth bynnag i chi," ebai Gruffydd, "mi weithiodd John Sowth yn rhy bell, a mi dorodd dŵr Pwll y Crwyn arno fo, a fel dwi'n deud, 'roedd pawb yn meddwl fod John Sowth wedi boddi, ac fe wnaed 'i arch o, a dwad a hi i'r caban yn barod i roi corff John i mewn ynddi, druan. Do, fu'r arch yn y caban am just i 'thefnos yn aros am John; ond chware teg i nhaid, a 'roedd o erbyn hyn dros 'i bedwar igien oed, ac wedi mynd i orwedd. Beth bynnag, mi wnaeth chware teg iddo fo, iddo nhw 'i gario fo o'i we1y, pedwar o ddynion medde nhad, yn mynd a fo mewn gwrthban, a mi wnaeth iddyn' nhw fynd a fo i lawr y pwll felly, Mr. Jarvis."
"Dyna anturiaeth, Gruffydd Huws," ebai Jarvis.
"Ia, a meddwl fod y rhan fwyaf o'r pwll wedi boddi, Mr. Jarvis, ond 'roedd pob gobaith o gael hyd i gorff John Sowth druan wedi ei golli, ond fe fynnai fy nhaid iddynt 'i gymryd o i'r pwll o'i wely,—pawb arall wedi methu yn llwyr."
"Dyna fath o ramant fach gynhyrfus Gruffydd Huws, ond ewch ymlaen." A gwelid llygaid mawr glas—dywyll Jarvis yn ymloewi fel y dadlennai yr hen Gruffydd hanes anturiaeth ei daid i Bwll boddedig y Comin.
"Wedi iddynt fyned a fo i lawr Mr. Jarvis," ebai, parodd iddynt ei gario ar hyd hen lefel am oddeutu milltir o ffordd, yr oedd y rhan oedd wedi boddi i lawr hen "ddyfn