y groes" oedde nhw yn 'i galw hi, ac 'roedd rwbeth yn deud wrth nhaid, na chode'r dŵr ond i rw' bwynt neilltuol —hen ben' oedd nhaid, medde nhw, Ann Jones, er chafodd o 'rioed ysgol. Beth bynnag, 'roedd o yn benderfynol o ga'l hyd i gorff John Sowth, byw ne' farw, ac fel 'roedd nhad yn deud yr hanes i mi, 'roedd gyna fo 'hen ffor' wynt ym mhen draw y traws 'ma wedi'i stankio er's rai blynydde, lle na wydde griadur byw am dani, er 'roedd o yn deud am dani yn 'i wely, ond fentre neb mo'r job—dŵr yn codi ddyliwn. Beth bynnag, wedi iddyn' nhw 'i gario fo i'r spot, chware teg i'r dynion hefyd, Mr. Jarvis. Dipyn o job 'i gario fo felly, am filltir ar hyd hen lefel isel. 'Rwan, medde nhaid, cliriwch y baw 'ne, a mi gewch y stanc, a chyn pen pum munud dene'r stanc i'r golwg yn y spot."
"Rwan," ebai wedyn, "torwch y stanc drwodd." clwes nhad yn deud fod y dynion yn crynu fel deilen ofn y dŵr, ond 'roedde' nhw a ffydd yn yr hen ddyn, a dene dori'r stanc—dim dŵr. "I lawr a chi rwan," medde nhaid. "I lawr a chi." A mi wnaeth nhw fynd i lawr yr hen ffor,' a ddyliwn i, cyn iddyn' nhw fynd i lawr rw' ganllath oddiwrth y stanc, dene sŵn araf rwbeth yn gruddfan, a phwy oedd o ond John Sowth."
"Yn fyw!"
"Yn fyw, Mr. Jarvis, a fu 'rioed ffasiwn ryfeddod, ond 'roedd hi just ar ben arno fo, am just i bythefnos felly, heb damed o ddim, ond pwys o g'nwlle gwer i fyta, dene chi drial i ddyn os leiciwch chi."
"Faswn i yn meddwl," ebe Jarvis, " fod o yn ddyn a nerve ganddo."
"Bob," bloeddiai Gruffydd, "glwes di 'rioed mo'r stori