PENNOD XII.
"YR wyf wedi penderfynu gweithio, a gweithio yn galed, Ann Jones," ebai Jarvis un noson, wrth fam Bob. Edrychai hithau i'w wyneb yn ddyfal, canys yr oedd golwg llafur blin ar ei wynebpryd eisoes, a llawer gwaith y tynnodd sylw Bob yn ei absenoldeb, at y llwydni oedd wedi dod i aros ar wyneb iach a hoyw Mr. Jarvis; ond ni ddaeth i'w meddwl ym mha ystyr y llefarai ei lletywr y noson hon.
"Yr ydych yn gweithio yn galed yn barod, mi ddaliai." ebai Ann Jones. "Ac o ran hynny, y mae pawb sy'n gweithio yn yr hen bwll 'ne, yn gorfod rhoi ei holl egni, neu dyna'r gair sydd iddo gan bawb yn y Wal 'ma."
"Does dim amheuaeth am hynny, Ann Jones," ebai yntau, canys y mae wedi bod yn agoriad llygaid i mi, mor galed y gweithia y dynion yn y Pwll mawr. Yn wir, ni fuaswn yn credu oni bae i mi weled a phrofi, ac y mae rhan o'r gwaith yn hynod boeth. Yr oeddwn yn gorfod cario dyn echdoe wedi darfod am dano yn y talcen. Ryw fath o wasgfa wedi dod drosto, a chludais ef yn fy mreichiau i le a dipyn mwy o awel, a fûm i yn meddwl, wrth sylwi arnynt, can lleied o sylw y maent yn gael gan lenorion a beirdd ein gwlad. Sôn am destun cadair genedlaethol—welais i 'rioed, ond hwyrach fy mod i yn cyfeiliorni—ond welais i 'rioed destun Cadair yn cael ei roddi i "Arwriaeth y Glowr," ond hwyrach mae ein cynefindra â hwy sydd i gyfrif am hynny—y trueiniaid gonest—ond fel y dywedais nid gwaith i'r cyfeiriad yna y meddyliais."