Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Syllodd Ann Jones arno drachefn, a rhedodd ei meddwl at y dygn sylw a roddai Mr. Jarvis i'w lyfr, canys llawer noson byddai yn hwyr yn myned i'w wely, ac yn cael ei adael gan Bob a'i fam wrth y bwrdd.

"Ydwyf, yr wyf wedi penderfynu mynd ati o ddifrif, Ann Jones," ebai Jarvis, a gwên ar ei wynebpryd.

"Yr ydwyf wedi cael tipyn o ysgol," ebai ymhellach, rwy'n meddwl weithiau y dylwn ei ddefnyddio i ryw bwrpas."

"Be,' meddwl trio am rwbeth yn y pwll yde' chi Mr Jarvis?" ebai hithau.

"Ia," ebai yntau, "ryw syniad felly sy'n chware ar fy meddwl e's tro bellach—er ma' nhw'n deud na fynith Stork yna yr un Cymro gael cyfle yn y pwll. Un o ble ydi o Ann Jones?"

"Wn i ddim yn siwr. Ydwi'n meddwl ma' un o Staffordshire ydi o. Rhai oddiyno ydi'r criw i gyd medde nhw. Hwnnw sy' wrth ben Bob 'ma, ma' fo'n rhegi'r Cymry pan fynoch chi, medde Bob. B1Welsh ydi popeth gyna fo ond ma' fo 'di g'neud nyth reit gynnes yn y lle 'ma, ddaliai i, Mr. Jarvis."

"Mi fydd yn job lled galed felly, Ann Jones?" ebai yntau.

"Fel ene ma' hi wedi bod rwan e's deuddeng ne' bymtheng mlynedd. Ma' Stork 'ma yma e's tros bymtheng mlynedd, 'chos dwi'n cofio 'roedd Bob ni yn 'i ddillad cwta pan fu farw yr hen Gornwal. Ydi, yma e's pymtheng mlynedd yn siwr."

"Sais oedd hwnnw hefyd?"

Ia, Sais oedd hwnnw, ond d'oedd o ddim cymaint yn